Rydyn ni’n chwilio am 15 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed o bob rhan o Gymru i ymuno â Rhwydwaith Llais Ieuenctid newydd sbon gyda Our Voice Our Journey a’r Comisiwn Etholiadol.
Ac yn bendant, does dim angen i ti fod yn arbenigwr mewn gwleidyddiaeth i gymryd rhan.
A dweud y gwir, rydyn ni wir eisiau clywed gan bobl ifanc sydd heb gael llawer o gyfleoedd i siarad am bleidleisio, etholiadau neu democratiaeth o’r blaen.
Bydd ein Rhwydwaith Llais Ieuenctid yn weithredol am 4 blynedd.
Os wyt ti eisiau darganfod mwy am y rhwydwaith, gelli di anfon neges WhatsApp aton ni ar: 07984927213 neu e-bostio ni yn: hello@ourvoiceourjourney.org.uk
Ceisiadau’n cau ar 30 Medi 2026
Gwneud cais yn: https://tally.so/r/PdQaex
Lawrlwythwch ein poster
Darllenwch hwn yn Saesneg
Beth fydd y Rhwydwaith Llais Ieuenctid yn ei wneud?
Mae hyn yn ymwneud â rhoi llais go iawn i bobl ifanc.
- Fel rhan o’r rhwydwaith, byddi di’n cael cyfle i:
- rannu dy farn a dy brofiadau
- dweud wrth y Comisiwn Etholiadol beth mae pobl ifanc wir yn ei feddwl
- helpu i greu ymgyrchoedd ac adnoddau ar gyfer pobl ifanc eraill
- dysgu mwy am bleidleisio, etholiadau a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud
- cyfarfod pobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru
- cymryd rhan mewn sesiynau ar-lein a chyfarfodydd preswyl
- datblygu sgiliau a hyder ar hyd y ffordd
Yn bwysicaf oll, does dim angen i ti wybod pob ateb.
Rydyn ni eisiau dy farn di, dy gwestiynau di a dy syniadau di.
Pwy all ymuno â’r Rhwydwaith Llais Ieuenctid?
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc sydd:
- Rhwng 11 a 18 oed
- Yn byw yng Nghymru
- Eisiau i’w llais gael ei glywed
Rydyn ni eisiau i’r rhwydwaith gynnwys pobl ifanc o wahanol rannau o Gymru, gwahanol gymunedau a chyda gwahanol brofiadau. Rydyn ni hefyd eisiau sicrhau bod gennym ni rai siaradwyr Cymraeg rhugl o fewn y rhwydwaith!
Oes angen i mi boeni am deithio?
Pan fyddwn ni’n cyfarfod wyneb yn wyneb, byddwn ni’n dod â phobl ifanc ynghyd o bob rhan o Gymru.
Bydd dy gostau teithio’n cael eu talu, felly ddylai ble rwyt ti’n byw ddim dy rwystro rhag cymryd rhan.
Bydd dy amser a dy gyfraniad hefyd yn cael eu cydnabod drwy Tempo Time Credits.
Faint sydd angen i mi ei wybod am wleidyddiaeth?
O ddifrif – dim byd. Does dim angen i ti ddilyn y newyddion, gwybod pwy yw pawb yn y llywodraeth na deall sut mae etholiadau’n gweithio. Gallwn ni helpu gyda’r rhan yna.
Yr hyn sy’n bwysig yw dy fod ti’n barod i ddweud wrthon ni beth rwyt ti’n ei feddwl a bod yn aelod dibynadwy o’r rhwydwaith.
Ceisiadau’n cau ar 30 Medi 2026
Gwneud cais yn: https://tally.so/r/PdQaex


